SL(5)362 - Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn diwygio gweithrediad presennol Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 12 Mawrth 2001 ar ollwng GMO yn fwriadol i'r amgylchedd (“y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”). Mae'r Gyfarwyddeb yn nodi fframwaith o reolaethau ar ollwng GMO, at ddibenion treialu ac ar gyfer eu rhoi ar y farchnad.

O dan y Gyfarwyddeb, mae angen awdurdodiad ymlaen llaw ar gyfer gollyngiadau arfaethedig, ar yr amod bod y GMO dan sylw yn pasio asesiad gwyddonol o'i effaith bosibl ar iechyd dynol a'r amgylchedd. Yn achos gollwng ar gyfer treialu, yr Aelod-wladwriaethau sy'n penderfynu a ddylid cymeradwyo ai peidio, ac, yn y DU, mae'r penderfyniadau hyn wedi'u datganoli, gan gynnwys i Gymru. Ar y llaw arall, mae penderfyniadau ar ollwng GMO ar gyfer marchnata masnachol yn cael eu gwneud ar y cyd ar lefel yr UE ar hyn o bryd. Mae'r Gyfarwyddeb hefyd yn delio'n benodol â hadau GMO i'w hamaethu: yn hyn o beth, mae'r Gyfarwyddeb yn caniatáu i Aelod-wladwriaethau atal amaethu ar eu tiriogaeth, er bod yr hadau wedi cael cymeradwyaeth yr UE.  Mae penderfyniadau ar y mater hwn hefyd wedi'u datganoli i Gymru.

Gweithredir y Gyfarwyddeb yng Nghymru gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002”).

Mae'r Rheoliadau sy'n destun gwaith craffu hefyd yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2002”), sy'n rheoli allforio GMO o Gymru, fel rhan o'r UE, i drydydd gwledydd (rhai y tu allan i'r UE). Y gofyniad allweddol yw, cyn yr allforio arfaethedig cyntaf o’r GMO y bwriedir iddo gael ei ollwng i’r amgylchedd, bod rhaid hysbysu'r wlad sy'n derbyn i’w gymeradwyo cyn ei anfon.

Ar hyn o bryd, mae Rheoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2002 yn gweithredu, yng Nghymru, Reoliad (EC) Rhif 1946/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 15 Gorffennaf 2003. Mae'r Rheoliad UE hwn, yn ei dro, yn gweithredu cytuniad rhyngwladol (y mae'r UE a'r DU yn bartïon iddo), sef Protocol Bioddiogelwch Cartagena i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol.

Gwneir y rhan fwyaf o'r diwygiadau i'r ddau offeryn statudol hyn yng Nghymru o dan bwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i'r Ddeddf Ymadael â'r UE. Mae paragraff 1(1) o Atodlen 2 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru fynd i'r afael, o fewn cymhwysedd datganoledig, â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir, sy'n deillio o'r DU yn ymadael a'r Undeb Ewropeaidd. Mae paragraff 21 o Atodlen 7 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed, wrth fynd i'r afael â'r methiannau neu'r diffygion hynny, gan gynnwys y pŵer i ailddatgan unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir mewn ffordd gliriach neu fwy hygyrch.

Mae offerynnau statudol Cymru a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn gyfystyr â chyfraith yr UE a ddargedwir at ddibenion adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“y Ddeddf Ymadael”). Mae Rheoliadau a Phenderfyniadau'r UE y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn hefyd yn gyfystyr â chyfraith yr UE a ddargedwir, o dan adran 3 o'r Ddeddf Ymadael.

Fodd bynnag, nid yw rhai diwygiadau a wneir yn deillio o'r DU yn ymadael â'r UE, ond, yn hytrach, yn cywiro cyfeiriadau sydd wedi dyddio. Gwneir y diwygiadau hyn drwy ddefnyddio pwerau a roddir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf y Cymunedau Ewropeaidd”). Er y bydd y Ddeddf honno yn cael ei diddymu gan adran 1 o'r Ddeddf Ymadael ar y diwrnod ymadael, bydd y diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth ddomestig yn parhau i gael effaith, yn rhinwedd adran 2 o'r Ddeddf honno.

Yn fras gellir categoreiddio'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau y creffir arnynt fel a ganlyn:  

·         Dileu cyfeiriadau at ddarpariaethau fel rhai sydd yn 'unol â [deddfwriaeth benodol yr UE]', a chyfeiriadau eraill at gyfraith neu rwymedigaethau'r UE, ac yn hytrach gyfeirio at gyfraith yr UE neu'r rhwymedigaethau hynny wrth iddynt gael eu trosi i gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhinwedd y Ddeddf Ymadael;   

·         Copïo diffiniadau o fewn offerynnau'r UE, fel eu bod yn dod yn rhan o ddeddfwriaeth ddomestig, yn hytrach na diffinio termau drwy gyfeirio at yr offerynnau UE hynny; neu fel arall, nodi y dylid cyfeirio at 'fersiynau' penodol o ddarnau o ddeddfwriaeth yr UE, fel na fydd newidiadau ôl-Brexit i'r ddeddfwriaeth honno yn cael eu trosglwyddo; 

·         Diweddaru cyfeiriadau at setiau eraill o ddeddfwriaeth a fydd yn cael eu newid yn dilyn ymadael â'r UE neu pan oedd cyfeiriadau at ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio;   

·         Newid cyfeiriadau o gysyniadau cyfraith yr UE i rai y DU, e.e. newid 'lefel Aelod-wladwriaeth' i 'unrhyw gyfraith o unrhyw ran o'r DU'; a  

·         Dileu darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru weithredu ar lefel yr UE, fel hysbysu'r Comisiwn neu Aelod-wladwriaethau eraill yr UE.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd 11 o bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.     Rheol Sefydlog 21.2(i) - ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires, neu Reol Sefydlog 21.2(ii) – ei bod yn ymddangos ei fod yn gwneud defnydd anarferol neu annisgwyl ar y pwerau a roddwyd gan y deddfiad y mae wedi’i wneud neu y mae i'w wneud odano

1.1  Rheoliad 3(10)(a)

1.1.1      Mae rheoliad 3(10)(a) yn rhoi (inter alia) paragraff (4) newydd yn rheoliad 25 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002. Mae Rheoliad 25 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 yn ymdrin â chydsyniad i farchnata GMO, ac roedd y paragraff (4) gwreiddiol yn gwneud darpariaeth mai'r uchafswm cyfnod y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol (Gweinidogion Cymru, erbyn hyn) roi cydsyniad iddo oedd 10 mlynedd. Mae'n ymddangos bod y diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn dileu'r cap hwnnw ar gyfnodau cydsynio.

1.1.2       Ni allwn weld ar unwaith sut y byddai'r cap yn achosi methiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, neu ddiffyg arall yng nghyfraith yr UE a ddargedwir, yn deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd; ac felly ni allwn weld sut y mae dileu'r cap yn dod o fewn y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf Ymadael. At hynny, credwn na ellir dweud bod dileu cap ar gyfnodau cydsynio GMO yn dod o fewn y pŵer ym mharagraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf Ymadael; nid yw'n ymddangos i ni ei bod yn ddarpariaeth atodol, ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol neu dros dro.

1.2  Rheoliad 3(16)(b)

1.2.1      Mae'r ddarpariaeth hon yn mewnosod paragraff (3A) newydd yn rheoliad 35 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002, sy'n ymdrin â data sydd i'w gynnwys ar gofrestr gyhoeddus o wybodaeth am GMO, a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 122 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (ac o dan rwymedigaethau yn y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol ac odani).

1.2.2      Bydd paragraff newydd (3A) yn golygu y bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei rhoi ar gofrestr gyhoeddus pan fydd rhywun yn gwneud cais am ganiatâd i farchnata GMO. Fodd bynnag, mae gwybodaeth gyfrinachol wedi'i heithrio.

1.2.3      Nodwn, ar ôl Brexit, mai Gweinidogion Cymru, ac nid y Comisiwn Ewropeaidd, fydd yn penderfynu ar roi caniatâd i farchnata. Am y rheswm hwnnw, rydym yn deall pam mae is-baragraff (3A)(e) newydd yn briodol; mae'n gwneud synnwyr gweinyddol i Weinidogion Cymru neilltuo cod cyfeirnod cais i bob cais ac i gysylltu hyn ag unrhyw wybodaeth am y cais hwnnw ar y gofrestr. Felly, ystyriwn fod is-baragraff (3A)(e) yn dod o dan y pwerau cysylltiedig a ddarperir gan baragraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf Ymadael.

1.2.4      Fodd bynnag, mewn perthynas â'r is-baragraffau eraill rydym yn llai clir ynglŷn â vires. Nid yw'n ymddangos bod y darpariaethau yn ofynnol o dan gyfraith yr UE cyn Brexit, ac felly nid yw'r pwerau a roddir gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd yn ymddangos yn berthnasol. O ran y pwerau a ddarperir gan y Ddeddf Ymadael, byddem yn disgwyl i'r rhain gael eu defnyddio i ddisodli, mor agos â phosibl, unrhyw rwymedigaethau ar y Comisiwn i roi gwybodaeth am geisiadau i farchnata GMO yn y parth cyhoeddus.

1.2.5      Fodd bynnag, ymddengys i ni mai rhwymedigaethau'r Comisiwn yn y cyswllt hwn yw cyhoeddi'r wybodaeth gryno a ddarperir gan yr ymgeisydd, ynghyd ag asesiad yr Aelod-wladwriaeth o'r cais, os yw'n ffafriol.  Yn amlwg, bydd ail ran y rhwymedigaeth hon yn disgyn unwaith y bydd Gweinidogion Cymru yn dod yn benderfynwr terfynol ac felly mae'n briodol peidio ag ailadrodd hyn yn y rheoliadau. Ond mae'n ymddangos bod rhan gyntaf y rhwymedigaeth wedi'i throsglwyddo i Weinidogion Cymru drwy is-baragraff (i) newydd, a fewnosodwyd yn rheoliad 35(3). Ar yr olwg gyntaf, byddai hyn yn ymddangos yn briodol i ni i atal unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir rhag gweithredu yn effeithiol, yn deillio o ymadawiad y DU â'r UE (ynghyd â'r ddarpariaeth newydd yn is-baragraff (3A)(e)).

1.2.6      Hoffem bwysleisio ein bod yn gefnogol iawn i'r nod ym mhenderfyniadau Gweinidogion Cymru i fod yn dryloyw, ac yn arbennig felly ar bynciau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar holl ddinasyddion Cymru, fel argaeledd GMO ar y farchnad. Fodd bynnag, mae'r hyn yr ydym yn ymdrin ag ef yma yn vires i sicrhau'r tryloywder hwnnw. Os yw paragraff newydd (3A)(a)-(d) ac (f)-(g) yn mynd ymhellach na rhoi dyletswyddau i Weinidogion Cymru sy'n adlewyrchu rhwymedigaethau presennol y Comisiwn i'w cyhoeddi, mae'n anodd gweld sut y mae hyn yn dod o dan y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i'r Ddeddf Ymadael, neu'r rhai atodol ym mharagraff 21 o Atodlen 7. Felly, byddem yn gofyn i Weinidogion Cymru egluro'r materion hyn er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynghylch vires.

2.     Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

2.1  Rheoliad 3(2)(a) ac (f), sy'n diwygio'r diffiniadau a gynhwysir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

2.1.1      Mae rheoliad 3(2)(a) yn newid y diffiniad o “gynnyrch wedi'i gymeradwyo”, at ddibenion caniatâd i gael ei farchnata yng Nghymru. Yn ei hanfod, daw'r diffiniad presennol o “gynnyrch wedi'i gymeradwyo” yn ddiffiniad o “cynnyrch wedi'i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael”, yn rhinwedd diffiniad newydd a fewnosodir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru gan reoliad 3(2)(f) o'r Rheoliadau presennol.

2.1.2      Y diffiniad newydd o “cynnyrch wedi'i gymeradwyo”, yn ei hanfod, yw cynnyrch sydd naill ai wedi cael cydsyniad gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, neu a awdurdodwyd o dan Reoliad 1829/2003 EC, a adwaenir (ac y cyfeirir ato yn y rheoliadau presennol) fel y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid.

2.1.3      Bydd y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn dod yn gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael, yn rhinwedd adran 3 o'r Ddeddf Ymadael. Ni fydd rheoliad 3 o'r rheoliadau presennol yn dod i rym nes y diwrnod ymadael. Felly, at ddibenion cyfraith ôl-Brexit Cymru, mae'n ymddangos bod awdurdodiad o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn golygu awdurdodiad a roddir ar ôl y diwrnod ymadael. Mae hyn hefyd yn rhesymegol o ystyried creu diffiniad ar wahân ar gyfer “cynnyrch[cynhyrchion] wedi'i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael”.

2.1.4      Fodd bynnag, mae hyn yn codi dau fater. Yn gyntaf, mae'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid eisoes mewn grym. Gofynnir am eglurhad pellach ynghylch pam nad yw'r diffiniad o “cynnyrch wedi'i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” yn cynnwys cynhyrchion a gymeradwywyd o dan y Rheoliad hwnnw cyn y diwrnod ymadael.

2.1.5      Mae'r ail fater yn bwynt Rhinweddau ac fe'i nodir isod o dan Reol Sefydlog 21.3(ii).

2.2  Rheoliad 3(6)(b) ac (c), sy'n diwygio rheoliad 17(2)(g) a (j) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

2.2.1      Mae'r darpariaethau hyn yn diweddaru'r cyfeiriadau at ddogfennau sy'n nodi'r fformat ar gyfer ceisiadau am gydsyniad i farchnata GMO, pryd y gwneir y ceisiadau hynny i Weinidogion Cymru. Felly, maent yn ddarpariaethau pwysig i ymgeiswyr. Mae rheoliad 3(6)(b) yn darparu bod yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu cynllun monitro a baratowyd, inter alia, yn unol â fformat a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/811/EC.

2.2.2      Mae'r ffurflenni cais a nodir yn yr Atodiad hwnnw yn cyfeirio mewn nifer o leoedd at y Gymuned Ewropeaidd (yr Undeb Ewropeaidd, erbyn hyn, wrth gwrs) ac at y Comisiwn Ewropeaidd. Yn benodol, maent yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd ddisgrifio, fel rhan o'r cynllun monitro sy'n rhan orfodol o'r cais, yr amodau lle bydd yr ymgeisydd yn adrodd i'r Comisiwn.  Mae angen mwy o eglurhad ynghylch pam a sut y mae'r fformat a nodir yn yr Atodiad hwn yn briodol ar gyfer ceisiadau ôl-Brexit am gydsyniad i Weinidogion Cymru.  

2.2.3      Mae Rheoliad 3(6)(c) yn ymwneud â'r crynodeb gorfodol y mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r cais. Rydym yn codi, isod, y pwynt nad yw'n ymddangos mai hon yw'r ddogfen gywir a nodir yn rheoliad 3(6)(c) fel yr un sy'n gosod y fformat ar gyfer y crynodeb hwn. At ddibenion y pwynt adrodd hwn, byddwn yn tybio mai'r bwriad oedd gorchymyn i ymgeiswyr ddilyn y fformat a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/812 EC.

2.2.4      Mae'r Atodiad hwnnw hefyd yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at y Gymuned Ewropeaidd (sic) sy'n ymddangos fel petai angen eglurhad pellach. Er enghraifft, mae'n ofynnol i ymgeiswyr nodi a yw eu cynnyrch yn cael ei hysbysu i “Aelod-wladwriaeth” arall, ac a yw person arall wedi rhoi cynnyrch arall gyda'r un cyfuniad o GMO ar “farchnad y Gymuned Ewropeaidd”. Yn yr achos olaf, nid yw'n glir i ni sut y bydd gan yr ymgeiswyr y wybodaeth hon ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu amcangyfrif o'r galw mewn marchnadoedd allforio am “gyflenwadau'r Gymuned Ewropeaidd” o'r cynnyrch (cyn-Brexit, byddai cyflenwadau'r DU wrth gwrs yn cyfrif fel cyflenwadau'r Gymuned Ewropeaidd ond ni fyddant yn gwneud hynny ar ôl Brexit).

2.3  Rheoliad 3(8)(b), sy'n diwygio rheoliad 22(6) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

Mae ein pryderon am y ddarpariaeth hon yn debyg i'r rhai a nodir yn 1.2. Yn ôl y ddarpariaeth newydd, mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth mewn fformat a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn (2003/71/EC). Mae'r Atodiad hwnnw yn gwneud amryw o gyfeiriadau sy'n ymddangos yn anodd eu gweithredu ar ôl Brexit, gan gynnwys gofyniad i ymgeiswyr ddyfynnu “rhif hysbysu Ewropeaidd”.

2.4  Rheoliad 3(9)(a)(ii), sy'n diwygio rheoliad 24(1)(d) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

2.4.1      Mae'r ddarpariaeth hon yn disodli rheoliad 24(1)(d) o reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 gyda darpariaeth newydd. Nid oes angen eglurhad pellach ar y ffaith ei fod yn cael ei disodli, gan fod y ddarpariaeth wreiddiol yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru vis a vis y Comisiwn Ewropeaidd, na fydd modd ei weithredu mwyach ar ôl y diwrnod ymadael. Fodd bynnag, rydym o'r farn bod angen peth eglurhad ar osod y ddarpariaeth newydd yn rheoliad 24(1). Mae rheoliad 24(1)(ch) yn ymdrin â dyletswyddau Gweinidogion Cymru i hysbysu ceisydd o'u penderfyniad. Roedd y 24(1)(d) gwreiddiol yn ymdrin â chamau gweithredu yn dilyn y penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, mae'r 24(1)(d) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried materion penodol wrth wneud eu penderfyniad. Yn rhesymegol, felly, ymddengys y dylai'r rheoliad 24(1)(d) newydd ragflaenu rheoliad 24(1)(ch), yn hytrach na'i ddilyn.

2.5  Rheoliad 3(16)(b) a (17), sy'n diwygio rheoliadau 35 a 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

2.5.1      Fel y trafodwyd uchod, mae rheoliad 3(16)(b) yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol yn y gofrestr gyhoeddus ynghylch GMO. Fodd bynnag, nid yw rheoliad 3(17) yn diwygio rheoliad 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 er mwyn rhagnodi terfyn amser i Weinidogion Cymru wneud hynny. Efallai nad bwriad polisi Gweinidogion Cymru oedd gosod terfyn amser o'r fath arnynt eu hunain. Fodd bynnag, mae rheoliad 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol (Cymru) 2002 yn gwneud hynny ar gyfer yr holl gategorïau gwybodaeth eraill a restrir yn rheoliad 35 (er bod y diwygiadau a wnaed gan y rheoliadau y creffir arnynt yn codi'r dyddiadau cau hynny mewn perthynas â phenderfyniadau cyn-Brexit y Comisiwn Ewropeaidd neu Aelod-wladwriaethau eraill).

2.5.2      Felly, gofynnir am eglurhad pellach ynghylch absenoldeb dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth berthnasol.

2.6  Drwy'r cyfan o reoliad 3

2.6.1      Mae nifer o'r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn cael yr effaith y bydd Rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 yn defnyddio dau enw gwahanol i gyfeirio at yr hyn sydd bellach yr un person cyfreithiol, sef “y [cyn-]Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gweinidogion Cymru”. Mae'r holl gyfeiriadau hyn i'w dehongli fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru, yn rhinwedd paragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Fodd bynnag, ni fydd hynny'n amlwg ar unwaith i'r rhai sy'n ceisio deall y ddeddfwriaeth. Mewn rhai mannau, bydd y ddau enw yn ymddangos yn yr un ddarpariaeth - er enghraifft, yn rheoliad 24 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 (gweler rheoliad 3(9)(a) o'r rheoliadau y creffir arnynt).

2.6.2      Yn ein barn ni, byddai Gweinidogion Cymru wedi cael vires i newid pob cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfeiriadau atynt eu hunain, lle y bo'n briodol, o dan baragraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf Ymadael, gan y byddent yn atodol neu'n gysylltiedig i ddarpariaeth a wnaed o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac a fyddai'n ailddatgan cyfraith yr UE a ddargedwir (offerynnau statudol Cymru a ddiwygiwyd) mewn ffordd gliriach a mwy hygyrch.

2.6.3      Fodd bynnag, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio o dan bwysau difrifol i wneud yr holl ddiwygiadau hanfodol i gyfraith yr UE a ddargedwir, fel y mae'n gymwys o fewn cymhwysedd datganoledig Cymru, cyn y diwrnod ymadael ac na fyddai bob amser yn ymarferol gwneud diwygiadau sydd, gellid dadlau, yn ddymunol heb fod yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu ar ôl ymadael.

2.6.4      Rydym hefyd yn gofyn am eglurhad pellach o'r rhesymeg y tu ôl i ddiwygiadau i'r ffordd y cyfeirir at rai darnau o ddeddfwriaeth yr UE yn y rheoliadau. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn dod yn gyfraith yr UE a ddargedwir ar y diwrnod ymadael, yn rhinwedd y Ddeddf Ymadael.

2.6.5      Mae rheoliad 3(2)(e) yn darparu bod cyfeiriadau yn Rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 at Benderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio (planhigion cnwd) yn gyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y mae'n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael. Fodd bynnag, nid yw'r rheoliadau'n diwygio cyfeiriadau eraill at gyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir yn Rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 yn y modd hwnnw (er enghraifft, y cyfeiriadau, yn rheoliad 2 o'r rheoliadau hynny, at Reoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, Rheoliad y Cyngor 1829/2003/EC).

2.6.6      Nid yw cyfeiriadau newydd yn y rheoliadau ychwaith at reoliadau uniongyrchol yr UE a ddargedwir (Rheoliadau a Phenderfyniadau'r UE) yn cael eu trin fel hyn (gweler er enghraifft y cyfeiriad at Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC, a fewnosodwyd gan reoliad 3(4)(b)).

2.6.7      Mae'n ymddangos i ni y bydd pob un o'r cyfeiriadau hyn at ddeddfwriaeth yr UE - p'un a ydynt yn bodoli eisoes yn Rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002 neu'n rhai sydd wedi'u mewnosod yn ddiweddar - yn cael eu trin fel cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE fel y mae'n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael, yn rhinwedd Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2019, sydd ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd. Y rheswm am hyn yw nad yw'r un o'r cyfeiriadau yn “newidiadwy” (hynny yw, nid ydynt yn cael eu nodi fel cyfeiriadau at offerynnau'r UE fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd gan sefydliadau'r UE; ni nodir ychwaith eu bod yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel yr oeddent yn gymwys ar amser penodol cyn y diwrnod ymadael). Yn wir, byddai y tu allan i bwerau'r Ddeddf Ymadael i wneud cyfeiriadau newydd yn y gyfraith ddomestig at offerynnau'r UE yn newidadwy yn yr ystyr hwn; nid yw'r Ddeddf Ymadael yn rhoi pwerau i Weinidogion olrhain datblygiadau cyfraith yr UE yn y modd hwn, mewn is-ddeddfwriaeth.

2.6.8      Felly, gofynnir am esboniad pellach o'r rhesymeg y tu ôl i Weinidogion Cymru yn dewis gwneud darpariaeth o'r math yn rheoliad 3(2)(e) mewn rhai achosion ac nid mewn achosion eraill er mwyn tryloywder, i'r Cynulliad ac i ddefnyddwyr y ddeddfwriaeth.

2.7  Rheoliad 4 - diwygiadau i'r Atodlen i reoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2005

2.7.1      Mae llawer o ddarpariaethau rheoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2005 yn ddibynnol ar “y darpariaethau Cymunedol penodedig”, hynny yw, y darpariaethau hynny yn Rheoliad (EC) Rhif 1946/2003 a restrir yn yr Atodlen i'r rheoliadau. Er enghraifft, mae rheoliad 3 yn darparu bod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol (Gweinidogion Cymru, nawr) orfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol penodedig, tra bo rheoliad 8 yn darparu ei bod yn dramgwydd i unrhyw un fynd yn groes i'r darpariaethau Cymunedol penodedig, neu i fethu â chydymffurfio â hwy. Felly, mae union ystyr y darpariaethau Cymunedol penodedig yn hynod o bwysig.

2.7.2      Mae rheoliad 4 o'r rheoliadau y creffir arnynt yn diwygio disgrifiad o ddau o'r “darpariaethau Cymunedol penodedig” yn yr Atodlen. Mae'r ddau ddiwygiad yn ymddangos, ynddynt eu hunain, yn briodol o ran addasu rheoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2005 o ganlyniad i'r DU yn ymadael â'r UE. Mae un yn dileu cyfeiriad at “y Comisiwn”, tra bo'r llall yn diwygio'r rheolau ynghylch pa awdurdodiadau sydd eu hangen i allforio GMO i'w defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu i'w prosesu. Yn flaenorol, gellid bod wedi cytuno o fewn yr UE awdurdodi mewnforio i wlad benodol; mae'r rheoliadau y creffir arnynt yn disodli hyn o'r diwrnod ymadael gyda darpariaeth bod caniatâd i farchnata yn y DU yn ddigonol.

2.7.3      Fodd bynnag, nid yw'n glir i ni sut y mae'r diwygiadau hyn yn effeithiol oni bai bod darpariaethau perthnasol Rheoliad Rhif 1946/2003 ei hun yn cael eu diwygio yn yr un modd, fel cyfraith yr UE a ddargedwir. Diffinnir y darpariaethau yn yr Atodlen i reoliadau Symudiadau ar draws y Ffin Cymru 2005 fel darpariaethau'r Rheoliad hwnnw. Yng ngoleuni'r cyswllt diffiniol hwnnw, mae'n ymddangos yn amheus i ni y gellir newid effaith y darpariaethau hynny, at ddibenion Rheoliadau 2005, drwy ddiwygio'r Atodlen yn unig, ac nid y Rheoliad UE sylfaenol (fel y bydd yn bodoli mewn cyfraith ddomestig ar ôl y diwrnod ymadael). Unwaith eto, rydym yn pwysleisio bod peidio â chydymffurfio â darpariaethau'r Atodlen yn drosedd; mae'r ail enghraifft a roddir yn y paragraff blaenorol yn enghraifft o sefyllfa lle gallai hyn fod yn uniongyrchol berthnasol.

2.7.4      Rydym yn cydnabod bod modd osgoi neu gywiro'r mater a nodwyd gennym gan ddeddfwriaeth arall sy'n gysylltiedig â Brexit. Fodd bynnag, fel y dywedom yn ein hadroddiad diweddar ar Reoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael a'r UE) 2019, rydym yn credu bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i geisio esbonio, yn well ac yn fwy llawn, i'r Cynulliad ac i ddinasyddion sut y mae pob darn o ddeddfwriaeth Gymreig ynghylch ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn cyd-fynd â'r darlun cyfan o ddeddfwriaeth y DU a'r UE – cyfredol ac arfaethedig – ar y pwnc penodol. Ymddengys mai'r lle priodol ar gyfer hyn fyddai'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol.

2.7.5      At hynny, fel y dywedasom dro ar ôl tro mewn Adroddiadau blaenorol, mae eglurder yn y gyfraith droseddol yn arbennig o bwysig. Am yr holl resymau hyn, felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi esboniad pellach o'r darpariaethau hyn.

3.     Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

3.1  Rheoliad 3(6)(c)

Fel y nodir uchod, mae'r ddarpariaeth hon yn newid y ddogfen sy'n nodi'r fformat ar gyfer ceisiadau am awdurdodiadau i ollwng yn fwriadol. Felly, mae'n ddarpariaeth bwysig i ymgeiswyr. Mae'n darparu mai'r fformat cywir yw'r un a nodir yn "yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/812 EC". Fodd bynnag, ymddengys nad oes Penderfyniad y Comisiwn gyda'r rhif hwnnw. Fodd bynnag, mae yna Benderfyniad y Cyngor gyda'r rhif hwnnw, ac ymddengys mai'r Atodiad i'r Penderfyniad hwnnw yw'r ddogfen berthnasol.

3.2  Rheoliad 3(10)(b)(ii)

Mae'r ddarpariaeth hon yn disodli rheoliad 25(5) o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002. Mae'n cyfeirio at “reoliad (3) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001”. Mae hwn yn amlwg yn gyfeirnod anghywir, gan nad yw rheoliadau'n cael eu nodi gan rifau mewn cromfachau. Ar ôl ystyried y Rheoliadau 2001 y cyfeirir atynt, ymddengys i ni mai'r bwriad oedd cyfeirio at “rheoliad 3”. Rydym yn ystyried mai gwall teipograffyddol yw hwn yn unig ac nad oes risg gwirioneddol o ddryswch gyda darpariaeth arall yn offeryn statudol 2001. Fodd bynnag, dylid ei gywiro er mwyn dileu unrhyw amheuaeth i ddefnyddwyr y ddeddfwriaeth.

 

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

4.     Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

4.1  Rheoliad 3(2)(a) a (f), sy'n diwygio rheoliadau 35 a 36 o Reoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002

4.1.1      Mae'r pwynt hwn yn ymwneud â'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 3(2)(a) ac (f) i'r diffiniad o “gynnyrch wedi'i gymeradwyo” yn rheoliadau Gollwng yn Fwriadol Cymru 2002, at ddibenion caniatâd i gael ei farchnata yng Nghymru. Nodir manylion y ddwy ddarpariaeth hon uchod, o dan baragraff 2.1, sy'n ymwneud â Rheol Sefydlog 21.1(v).

4.1.2      Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn codi pwynt o ran rhinweddau. Mae'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn rhoi'r swyddogaeth o awdurdodi cynhyrchion i'w marchnata i'r Comisiwn Ewropeaidd, gyda chymorth Pwyllgor yr UE, ac ar sail barn wyddonol gan yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd (“EFSA”). Os na chaiff y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, pan ddaw'n gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael, ei ddiwygio yn y cyswllt hwnnw, bydd y Comisiwn yn gallu parhau i roi awdurdodiadau a gydnabyddir yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Byddai hyn yn gyson â bwriad cyffredinol y Ddeddf Ymadael i sicrhau parhad, cyn belled ag y bo'n ymarferol ac am y tro, rhwng cyfraith cyn ac ar ôl Brexit sy'n deillio o'r UE. 

4.1.3      Fodd bynnag, mae'n bwysig yn wleidyddol y bydd tystysgrifau marchnata ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a wneir o gynhwysion a addaswyd yn enetig, neu sy'n cynnwys cynhwysion a addaswyd yn enetig,  a gyhoeddir gan gorff yr UE, yn parhau i gael eu cydnabod yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried y ddadl yn y DU ac yng Nghymru ynghylch diogelwch bwyd a addaswyd yn enetig.

4.1.4      Rydym yn cydnabod y gallai'r Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid fod wedi ei ddiwygio, neu ar fin cael ei ddiwygio, mewn rhyw ffordd berthnasol, fel cyfraith yr UE a ddargedwir, gan is-ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU o dan y Ddeddf Ymadael. Rydym hefyd yn cydnabod yr anawsterau sy'n wynebu Gweinidogion Cymru wrth geisio deddfu o dan bwysau amser eithafol ac mewn cyd-destun lle mae llawer iawn o ddeddfwriaeth gysylltiedig arall yn cael ei gwneud ganddynt hwy a chan Lywodraeth y DU.

4.1.5      Fodd bynnag, rydym o'r farn, lle bo annibyniaeth o'r fath yn bodoli rhwng gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, a wnaed neu sydd i'w gwneud, mewn maes cyfreithiol mor bwysig, y dylid eu hesbonio, neu o leiaf gyfeirio atynt, yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r is-ddeddfwriaeth ar gyfer craffu.

 

Y goblygiadau yn sgil ymadael a'r Undeb Ewropeaidd 

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Mae paragraff 4.5 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi fel a ganlyn:

Wales intends to follow England, Northern Ireland and Scotland’s approach on the release of GMO’s.

Efallai mai mater o iaith anffodus yw hyn, ond nid ydym o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru “ddilyn” dull gweithredu gwledydd eraill y DU; yn enwedig ar fater mor bwysig a dadleuol. Mae “dilyn” yn fater gwahanol iawn i gytuno ar ddull cyffredin gyda llywodraethau'r gwledydd eraill hynny. Nodwn fod y Cytundeb Rhynglywodraethol rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU ar 24 Ebrill 2018 wedi nodi “Amaethyddiaeth - marchnata a thyfu GMO”, yn ogystal ag amrywiol faterion yn ymwneud â bwyd, yn feysydd y byddai'r ddwy lywodraeth yn cytuno y byddai'n debygol bod angen fframweithiau cyffredin y DU arnynt - rhai deddfwriaethol neu fel arall - ac rydym yn tybio bod y frawddeg a amlygir uchod yn ceisio adlewyrchu'r cytundeb hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 18 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau technegol a'r pwyntiau rhinweddau uchod.